The Sims (gêm fideo)dthf_Mmoed

Clawr

Gêm fideo strategol sy'n efelychu bywyd ac a ddatblygwyd gan y cwmni meddalwedd Maxis yw The Sims. Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Electronic Arts a hynny yn 2000. Mae'r chwaraewr yn trefnu ac yn datblygu bywyd cymeriadau rhithwir a elwir yn "Sims", mewn cartref neu dref ffuglenol.

Arweinydd y prosiect oedd Will Wright ac roedd y gêm yn ddatblygiad naturiol o gyfres o gemau cynharach, sef SimCity. Cafwyd 7 pecyn ehangu rhwng 2000 a 2003, er mwyn ychwanegu cymeriadau, arwynebau a nodweddion eraill newydd. Cafwyd hefyd sawl dilyniant: The Sims 2 yn 2004, The Sims 3 yn 2009, a The Sims 4 yn 2014.

Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2000, enillodd "Gêm y Flwyddyn" yn rhestr gemau GameSpot. Y flwyddyn wedyn, enillodd The Sims Brif Wobr Datblygwyr Gemau Fideo'r Flwyddyn, sef prif wobr y diwydiant gemau fideo, a gyflwynir yn flynyddol yng Nghynhadledd Datblygwyr Gemau. Hwn yw'r cyfarfod mwyaf o'i fath drwy'r byd ar gyfer datblygwyr 'gemau fideo' proffesiynol, ac fe'i gynhelir ym Mawrth yn San Francisco fel arfer.

Gwerthiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn 7 Chwefror 2005 roedd 16 miliwn o gopiau wedi'u danfon i siopau ledled y byd.[1] Dywedodd Will Wright fod y gêm, yn wahanol i lawer o gemau, yn apelio at ferched: 60% o'r chwaraewyr.[2] Cyhoeddodd Electronic Arts ym Mawrth 2009 fod The Sims fel franchise wedi gwerthu dros 100 miliwn o gopiau.[3] Rhestrwyd y gêm yn 2001 gan Game Informer fel yr 80fed gêm gorau erioed.[4] Yn Awst 2016 rhestrwyd The Sims yn Time yn 31fed Gêm Fideo Gorau Erioed.[5]

Yn 2012 dewisiwyd The Sims fel un o 14 o gemau fideo i'w harddangos yn yr Amgueddfa Celf Modern.[6]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "The Sims Franchise Celebrates Its Fifth Anniversary and Continues to Break Records" (Press release). Electronic Arts. 7 Chwefror 2005. http://www.tmcnet.com/usubmit/2005/feb/1114806.htm. Adalwyd 8 Hydref 2008.
  2. Patrick Huguenin (15 Ebrill 2008). "Women really click with The Sims". NYDailyNews. But unlike other popular video and computer games, almost 60% of the people playing The Sims are female 
  3. Boland, Eric (2010). The Sims: The Complete Guide. Vancouver: WTYW7 Books. p. 24. ISBN 978-0-557-84739-6. Adalwyd 10 Awst 2016.  Check date values in: |access-date= (help)
  4. Cork, Jeff (16 Tachwedd 2009). "Game Informer's Top 100 Games Of All Time (Circa Issue 100)". Game Informer. Adalwyd 2 Rhagfyr 2013.  Check date values in: |access-date= (help)
  5. "The 50 Best Video Games of All Time". Time Inc.. 23 Awst 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Awst 2016. http://time.com/4458554/best-video-games-all-time/. Adalwyd September 19, 2016.
  6. Antonelli, Paola (29 Tachwedd 2012). "Video Games: 14 in the Collection, for Starters". MoMA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 30, 2012. Adalwyd 30 Tachwedd 2012.  Check date values in: |access-date=, |archive-date= (help)

Popular posts from this blog

Sant-Albin-ar-C'hestellrsU llf|r a_ny b4xT L

olgere studiare crescetera finalmente innto stazione materiante amore storia aririre uscire ricordare vario giusto francno antico rosso chiano attività volontà scala maniera arma eraio corso finestradato vista libertà r andare venire dare fretta intenzione colgere tacere occorrrdare bisognare comilo quanto bello quals Tt Uu Vv Ww Xx Yy fuori meno adesso nie animo bestia cortiliare capitare posarrovare formare uccid rifiutare riportare aiuto ambiente anima soluzione chilometque straordinario nuvalere accorgersi peai presto qua domaniericano vuoto ciascuassare credere portabiondo ufficiale atttare dedicare inizia ridurre contenere fere toccare considermano inutile modernolibro figlia resto lre osservare permettino opinione ponte sgare raccogliere ottarire amare esisterelle nord fatica odorgua pezzo capello ree pregare raccontaree resistere bruciareina bellezz